Polisi Preifatrwydd
Yn y polisi hwn, mae “Ni” ac “Ein” yn cyfeirio at “Cyngor Cymuned Llanfiangel-ar-Arth” ac unrhyw un sy’n gyflogedig gennym neu sy’n gweithio ar ein rhan.
Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn esbonio sut y byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth a rowch i ni wrth i chi ddefnyddio’r wefan hon a sut y byddwn yn ei diogelu. Rydym yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd. Efallai y byddwn ni’n gofyn i chi ddarparu gwybodaeth a allai fod yn unigryw i chi wrth i chi ddefnyddio’r wefan hon. Gallwch fod yn sicr y byddwn ni ond ei defnyddio yn unol â’r datganiad hwn. Gallai’r polisi newid o dro i dro, a byddwn ni’n diweddaru’r dudalen hon. Dylech chi edrych ar y dudalen hon yn rheolaidd i sicrhau eich bod chi’n fodlon â’r newidiadau.
Casglu gwybodaeth
Ffeiliau cofnodi
Rydym yn casglu gwybodaeth fel ffeiliau cofnodi arferol ac yn monitro gweithgarwch defnyddwyr wrth i rywun ymweld â’n gwefan. Rydym yn gwneud hyn er mwyn cael gwybod faint o ddefnyddwyr sy’n ymweld â gwahanol rannau o’r safle, er enghraifft. Ni allwn ddefnyddio’r wybodaeth hon i’ch adnabod yn bersonol. Ni fyddwn ni’n gwneud unrhyw gais am i chi ddatgelu pwy sy’n ymweld â’n gwefan trwy ddefnyddio’r data yn y ffeiliau. Ni fyddwn ni’n cysylltu unrhyw wybodaeth a gesglir o’r safle hwn ag unrhyw wybodaeth bersonol o unrhyw le arall.
Storio’ch dewis iaith
Bydd eich dewis iaith yn cael ei gofnodi ar y safle hwn (Cymraeg neu Saesneg). Ar ôl dewis iaith, byddwn ni’n gosod cwci. Mae hynny’n golygu na fydd eisiau i chi nodi’ch dewis iaith bob tro y byddwch chi’n defnyddio’r wefan hon. Trwy ddewis iaith byddwch chi’n rhoi’ch caniatâd i ni osod ffeil fach ar eich dyfais.
Enw: Dewis Iaith
Cynnwys: Cod iaith deuair ISO CY neu EN
Terfynu: 14 niwrnod.
Ffurflenni sylwadau ac ymholiadau
Mae modd i ymwelwyr â’n gwefan osod sylwadau neu gysylltu â ni trwy lenwi ffurflen gyswllt. Rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol:
- Manylion cyswllt e.e. Enw, Cyfeiriad e-bost, Cyfeiriad gwe
- Cyfeiriad IP
- Sylw
- Ymholiad
Mae angen yr wybodaeth hon arnom er mwyn:-
- Gwella’n cynhyrchion a’n gwasanaethau
- Annog cyfranogiad ein defnyddwyr a hwyluso trafodaeth ar ein gwefan
- Gallu ymateb i ymholiadau defnyddwyr
- O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn ni’n anfon e-bost atoch chi i hysbysebu cynhyrchion newydd, cynigion arbennig a gwybodaeth arall a allai fod o ddiddordeb, gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost. Cewch gyfle i dynnu’n ôl a gwrthod y gwasanaeth hwn.
Cwcis
Ffeiliau bach yw cwcis sy’n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur gan y gwefannau yr ydych chi’n ymweld â nhw. Maen nhw’n cael eu defnyddio’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod gwefannau’n gweithio neu’n gweithio’n fwy effeithiol, a hefyd i ddarparu gwybodaeth i berchnogion y wefan. Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn darparu’n cynhyrchion a’n gwasanaethau, a’u gwella, ac er mwyn bod yn gystadleuol. Ni fydd y cwcis yn cael eu rhannu ag unrhyw un arall.
Y cwcis yr ydym ni’n eu defnyddio:
Google Analytics:
Rydym yn defnyddio Google Analytics er mwyn sicrhau bod ein gwefan yn bodloni anghenion ein defnyddwyr ac i flaenoriaethu gwelliannau. Ceir mwy o fanylion ar safle Google: Google privacy and cookie policy page. Hefyd, mae Google yn darparu browser add-on sy’n eich galluogi i dynnu’n ôl o Google Analytics ar bob gwefan.
Mae Google Analytics yn casglu gwybodaeth anhysbys am ddefnydd gwefan, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r safle, o ble maen nhw wedi cyrraedd a thrywydd y tudalennau y mae’r defnyddiwr yn ymweld â nhw yn ystod ei ymweliad. Mae hefyd yn gwirio faint o amser mae rhywun yn aros ar y safle.
Nid yw’r cwcis yn casglu gwybodaeth sy’n datgelu pwy yw’r ymwelwyr, ac ni chysylltir eich cyfeiriad IP ag unrhyw wybodaeth bersonol.
Rydym yn defnyddio cwcis Google Analytics fel a ganlyn.
Enw: _utma Cynnwys nodweddiadol: rhif a gynhyrchir ar hap Terfynu: 2 flynedd
Enw: _utmb Cynnwys nodweddiadol: rhif a gynhyrchir ar hap Terfynu: 30 munud
Enw: _utmc Cynnwys nodweddiadol: rhif a gynhyrchir ar hap Terfynu:Pan mae’r defnyddiwr yn gadael y porwr
Enw: _utmz Cynnwys nodweddiadol: rhif a gynhyrchir ar hap a gwybodaeth am sut yr ydych wedi cyrraedd y dudalen (e.e. naill ai’n uniongyrchol neu trwy linc, chwiliad organig neu chwiliad a dalwyd amdano) Terfynu: 6 mis
Enw: __utmmobile Cynnwys nodweddiadol: rhif a gynhyrchir ar hap Terfynu: 2 flynedd
Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu rhywfaint o reolaeth dros y mwyafrif o gwcis drwy osodiadau’r porwyr. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â cwcis, gan gynnwys sut i’w rheoli a’u dileu, ac i weld pa gwcis sydd wedi cael eu gosod, ewch i www.allaboutcookies.org.
Diogelwch
Rydym yn ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel. Er mwyn rhwystro mynediad neu ddatgeliad heb awdurdod, rydym wedi gosod gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheolaethol yn eu lle i ddiogelu’r wybodaeth a gasglwn ar-lein a’i chadw’n ddiogel.
Dolenni o’n gwefan
Gall ein gwefan gynnwys dolenni at safleoedd eraill, er gwybodaeth i chi yn unig. Os defnyddiwch y dolenni hyn, byddwch yn gadael ein gwefan, ac ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch na phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a roddwch wrth ymweld â safleoedd o’r fath, ac nid yw safleoedd o’r fath yn cael eu rheoli gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.
Rheoli’ch gwybodaeth bersonol
Ni fyddwn yn gwerthu’ch gwybodaeth bersonol, na’i dosbarthu, na’i rhoi ar les i unrhyw un arall heb eich caniatâd neu onid oes gofyn i ni wneud hynny’n gyfreithiol.