Telerau Defnyddio’r Wefan
Mae “Ni” ac “Ein” isod yn cyfeirio at “Cyngor Cymuned Llanfiangel-ar-Arth” ac unrhyw un sy’n gyflogedig gennym neu sy’n gweithio ar ein rhan.
Wrth ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i gadw at y telerau a’r amodau a nodir isod.
1. Mynediad at y wefan a’i chynnwys
Nid yw’r wybodaeth ar y wefan hon yn cymeradwyo nac yn argymell i chi brynu unrhyw gynnyrch na gwasanaeth a grybwyllir, a dylech gael cyngor annibynnol a phenodol.
Byddwn yn ymdrechu i ddarparu mynediad parhaus at y wefan hon, ond gellid atal, cyfyngu neu ddileu mynediad at y wefan ar unrhyw adeg.
Rydym yn gwrthod unrhyw atebolrwydd a chyfrifoldeb dros gynnwys unrhyw un wefan arall y gallwch gysylltu â hi trwy ddefnyddio’r dolenni ar y wefan hon.
2. Hawliau eiddo deallusol
Ni yw perchennog hawlfraint cynnwys y wefan hon, ei dyluniad, ei thestun a’r gwaith graffeg arni, ac mae unrhyw ddetholiad neu drefniant ohonynt yn perthyn i ni neu i’r rheiny sy’n darparu gwybodaeth o’r fath. Cedwir pob hawl. Ni ellir copïo’r deunydd hwn, na’i ailddosbarthu, heb ein caniatâd ysgrifenedig. Gallwch lawrlwytho un copi, neu ei argraffu, at eich dibenion di-fasnachol all-lein.
Gallai enwau cwmnïau a chynhyrchion a nodir ar y wefan hon fod yn nodau masnach neu’n nodau masnach cofrestredig eu perchnogion priodol.
3. Ein hatebolrwydd
I’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith, rydym yn gwadu pob honiad a gwrantiad (boed yn ddatganedig neu’n oblygedig) ynglŷn â chywirdeb unrhyw wybodaeth sy’n cael ei chynnwys ar y wefan hon. Nid ydym yn gwarantu na fydd y wefan yn cynnwys unrhyw wallau ac ni fyddwn yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw gamgymeriadau neu ddiffygion.
Oherwydd natur trosglwyddiad electronig dros y we, a nifer defnyddwyr sy’n postio data ar y wefan hon, mae Webs Wonder Design yn gwrthod unrhyw atebolrwydd i’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled neu unrhyw gais sy’n codi oherwydd trafferth cysylltu â’r wefan hon, oherwydd unrhyw ddefnydd o’r wefan hon neu unrhyw ddibyniaeth ar wybodaeth wedi ei throsglwyddo trwy’r wefan hon.
Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golledion, gan gynnwys colledion ariannol, cyllidau, ewyllys da, amhariad ar fusnes, cyfleoedd, cynilion disgwyliedig, nac unrhyw ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, boed hynny mewn contract neu gamwedd (gan gynnwys esgeulustod neu fel arall) sy’n codi fel canlyniad i ddefnyddio’r wefan hon, nac am unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na’u gyfyngu yn unol â chyfraith berthnasol.
Nid ydym yn gwarantu bod y wefan hon yn rhydd o unrhyw firws nac unrhyw beth arall a allai gael effaith ddinistriol ar unrhyw dechnoleg.
4. Ymwadiad
Darperir dolenni at wefannau eraill er cyfleuster ein defnyddwyr. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gywirdeb yr wybodaeth sydd ar gael ar wefannau pobl eraill, na’u cynnwys, nac unrhyw agwedd arall ar unrhyw gyfrifoldeb. Ni ddylech gymryd ein bod yn ardystio unrhyw gynnwys, gwybodaeth, cynnyrch neu wasanaeth gan unrhyw un arall, boed yn ddatganedig neu’n oblygedig, trwy ddarparu dolenni at wefannau pobl eraill.
5. Cyfraith berthnasol
Mae’r telerau hyn ar gyfer defnyddio’r wefan yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.
Bydd unrhyw anghydfodau’n rhwym i awdurdod unigryw Llysoedd Cymru a Lloegr.
6. Gwybodaeth bellach
Dylech anfon unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r datganiadau uchod aton ni ermwyn i ni eu hegluro, a hynny naill ai trwy e-bost neu drwy’r post i: